Cofnodion Grŵp Trawsbleidiol 
  
 
  

 

 


Cofnodion cyfarfod:

Teitl y grŵp trawsbleidiol:

Camddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth

Dyddiad y cyfarfod:

17.01.2023

Lleoliad:

Prif Neuadd, Adeilad y Pierhead, Caerdydd

 

Yn bresennol:

Enw:

Teitl:

Peredur Owen Griffiths AS/MS

Aelod o’r Senedd Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru

Jayne Bryant AS

Aelod o’r Senedd Llafur dros Orllewin Casnewydd

John Griffiths AS,

Aelod o’r Senedd Llafur dros Ddwyrain Casnewydd

Mabon ap Gwynfor

Aelod o'r Senedd dros Ddwyfor Meirionnydd

Joyce Watson AS (JW)

Aelod o’r Senedd, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Dr Rob Jones

Siaradwr Gwadd, Ysgol y Gyfraith Caerdydd

Martin Blakebrough

Prif Swyddog Gweithredol, Kaleidoscope

Gareth Llewellyn

Staff Cymorth yr Aelod

Cris Watkins

Swyddog Ymgyrchoedd a Chyfathrebu, Kaleidoscope

Rhestr Ddosbarthu’r Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y Sector Cyfan

 

 

Crynodeb o'r cyfarfod:

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y GTB

Croesawodd Peredur Owen Griffiths y grŵp i’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Nododd y cynnig i newid un gair yn enw'r GTB o 'gamddefnyddio' i 'ddefnyddio' gan fod Darparwyr Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol wedi nodi bod 'camddefnyddio' yn cael ei ystyried yn derm sy'n stigmateiddio.

Pleidleisiodd y GTB o blaid.

Cynigiodd Peredur Owen Griffiths fod Kaleidoscope yn parhau i ddarparu cefnogaeth Ysgrifenyddol i'r GTB.

Cymeradwyodd y Bwrdd yr enwebiad. (Crispin Watkins o Kaleidoscope i weithredu fel Ysgrifennydd)

Galwyd ar ymgeiswyr i sefyll i fod yn Gadeirydd y GTB am y flwyddyn nesaf.

Safodd Peredur Owen Griffiths i fod yn Gadeirydd a chafodd ei ethol yn briodol.

Llongyfarchodd Jane Bryant MS Peredur ar gael ei ailethol.

Rhoddodd Peredur Owen Griffiths grynodeb byr o waith y GTB yn ystod 2022 (fel y’i dogfennwyd yng nghofnodion y cyfarfodydd blaenorol).

Nodwyd nad oedd y GTB wedi derbyn, dal na gwario unrhyw arian yn ystod y flwyddyn flaenorol.

 

Sylwadau agoriadol a materion ffurfiol cyfarfod y GTB

 

Croesawodd Peredur Owen Griffiths AS bawb i bedwerydd cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Gamddefnyddio Sylweddau a Dibyniaeth a diolchodd i bawb a fu’n ymwneud â’r gwaith achub-bywyd o gefnogi’r rhai â phroblemau defnyddio sylweddau a dibyniaeth.

 

Roedd y digwyddiad hwn yn ceisio archwilio'r heriau a wynebir gan bobl â phroblemau defnyddio sylweddau a gyflwynir gan drefniadau cyfiawnder troseddol presennol Cymru, a chyfleoedd ar gyfer gweithgareddau lleihau niwed pellach o fewn y terfynau hynny.

 

Crynodeb o’r Siaradwyr:

 

Cyflwyniad

Gofynnodd Dr Rob Jones, 'A yw pobl â phroblemau defnyddio sylweddau'n cael eu dal ar ymyl y system gyfiawnder troseddol yng Nghymru?'

Dechreuodd Dr Jones drwy dynnu sylw at hanes system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr. Ar ôl datganoli mae gan Gymru gyfrifoldeb am ystod eang o bolisïau cymdeithasol gan gynnwys mynd i'r afael â defnyddio sylweddau, tra bod cyfiawnder troseddol yn parhau i fod wedi'i gadw i San Steffan. Mae hyn yn wahanol i’r trefniadau ar gyfer Lloegr ond hefyd gwledydd datganoledig yr Alban a Gogledd Iwerddon ac felly’n gadael Cymru yn sylfaenol wahanol.

Mewn gwirionedd mae Cymru yn unigryw gan mai 'Cymru yw'r unig wlad cyfraith-gwlad yn y byd sydd â'i Senedd a'i Llywodraeth ei hun ond nid ei system gyfiawnder ei hun' (Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2012). Mae hyn yn arwain at gymhlethdod, heriau o ran polisi cydgysylltiedig, a diffyg eglurder ynghylch atebolrwydd.

Nododd Dr Jones fod pennod yn ei lyfr diweddaraf ar ganlyniadau cyfiawnder troseddol yng Nghymru, sy’n dangos perfformiad cymharol wael Cymru o gymharu â chenhedloedd eraill gan gynnwys cyfraddau carcharu uchel iawn, yn enwedig ymhlith menywod.

Yn strwythurol, nodwyd bod uwch-bersonél y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn Lundain-ganolig iawn, ac o ganlyniad nid oes gan Gymru lais cryf yn Whitehall. Nid yw hyn yn fwriadol, ond, yn syml, oherwydd bod Lloegr gymaint yn fwy a’r problemau yn ninasoedd Lloegr mor fawr o’u cymharu â’r rhai ym mhoblogaeth Cymru gyfan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio canolbwyntio ar atal a lleihau niwed yn hytrach na throseddoli a chosbi. Mewn geiriau eraill, ei ddull gweithredu, yn bennaf, fu gwrththesis y dull amlycaf yn system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr yn ei chyfanrwydd ers dyfodiad datganoli democrataidd. Mae materion penodol yn ymwneud â thai i’r rhai sy’n gadael carchar, lle awgrymodd yr arolygiaeth y dylai Lloegr ddilyn polisi Cymru yn 2010 a 2014, ond bu’n rhaid i Lywodraeth Cymru ffrwyno ei dull gweithredu gan na newidiodd polisi San Steffan.

Nid yw’r Pwyllgor Cyfiawnder a’r Pwyllgor Materion Cartref yn edrych ar Gymru ar wahân, felly nid yw’r bylchau rhwng systemau San Steffan a Chaerdydd yn cael eu harchwilio. Yn yr un modd, nid oes gan y Senedd atebolrwydd clir yn y maes hwn felly er gwaethaf ymchwiliadau’r Senedd maent yn ei chael yn anodd gallu gosod argymhellion ar gyfer newid ar asiantaethau a reolir gan San Steffan.

O ganlyniad, mae gennym system sydd, fel y'i trefnwyd, yn gamweithredol yn strwythurol ac yn systemig. Yn benodol

·         A siarad yn gymharol, mae'n system sy'n perfformio'n wael iawn.

·         Mae'n system lle mae llunio polisïau effeithiol yn hynod o anodd; hyn hyd yn oed yn ôl safonau maes polisi sy'n hynod gymhleth ac anhydrin.

·         At hynny, mae’n system nas craffir arni yn effeithiol, ac ar y gorau, ychydig o atebolrwydd sydd iddi.

Daeth adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2019 i’r casgliad unfrydol ‘bod pobl Cymru yn cael eu siomi gan y system yn ei chyflwr presennol’ (Comisiwn Thomas 2019: 8). Wrth ymateb, cynigiwyd datganoli cyfrifoldebau cyfiawnder er mwyn: 

·         galluogi alinio polisi a gwariant cyfiawnder yn briodol â pholisïau cymdeithasol, iechyd, addysg a datblygu economaidd yng Nghymru, fel sail i atebion ymarferol hirdymor; 

·         gosod cyfiawnder wrth galon y llywodraeth; [a]

·         galluogi atebolrwydd cliriach a gwell.

Mae ymateb Llywodraeth y DU yn awgrymu na chaiff yr argymhellion hyn eu gweithredu ar unrhyw adeg yn fuan.

Ond nid oes unrhyw ymgysylltiad difrifol gan Lywodraeth Geidwadol y DU, ac mae'n ymddangos bod ASau Llafur Cymru yn cytuno â nhw (eto ar sail diffyg ymgysylltu llwyr â'r dystiolaeth - dibwyso, difrïo datganoli, gwyro). Felly... beth sydd nesaf?

 

Lincs defnyddiol:

·         Dr Rob Jones ar Twitter:

https://www.twitter.com/RDJones_

·         Proffil Ysgol y Gyfraith Caerdydd:

https://www.cardiff.ac.uk/cy/people/view/126580-morgan-matthew

 

Yna rhannodd y grŵp yn gyfres o grwpiau ar wahân gan gynnal sgyrsiau bwrdd crwn dan gadeiryddiaeth Aelodau’r Senedd.

Crynodeb o Gwestiynau, Sylwadau ac Awgrymiadau a Godwyd:

Trafododd y grwpiau ‘Beth allwn ni ei wneud yn wahanol yng Nghymru o fewn y trefniadau cyfiawnder troseddol presennol o ran lleihau niwed? Sut gallai’r Senedd helpu gyda hyn?’

 

·         Cafwyd adborth gan Gadeiryddion pob bwrdd ar gwestiwn allweddol y drafodaeth.

·         Gallai'r Senedd annog Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a Phrif Gwnstabliaid i ganiatáu llythyrau cysur, er mwyn galluogi gwell dulliau o leihau niwed megis Ystafelloedd defnyddio cyffuriau.

·         Dylid dathlu'r Comisiynwyr a'r Prif Gwnstabliaid hynny sydd â'r weledigaeth i wneud hynny

·         Dylai’r Senedd gydnabod y gwahaniaeth rhwng lleihau niwed ac ymatal, a dylai gefnogi dull gweithredu person-ganolig sy’n galluogi’r unigolyn i ddefnyddio’r dulliau sydd fwyaf priodol i’w hanghenion.

·         Mae gwasanaethau cydgysylltiedig yn hanfodol ar draws gwasanaethau defnyddio sylweddau arbenigol, HMPPS y GIG, yr heddlu, gwasanaethau iechyd meddwl a digartrefedd

·         Mae cyllid strwythurol aml-asiantaeth hirdymor yn allweddol, yn hytrach na chontractau tymor byr sy'n tanseilio ymdrechion o ran arloesi a datblygu strategol

·         Mae parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio sylweddau fel mater iechyd, yn hytrach na mater cyfiawnder troseddol, gan gynnwys rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio technegau dargyfeirio gan yr heddlu yn allweddol.

·         Nodwyd bod dargyfeirio yn cael ei ddefnyddio ar gyfer materion eraill, megis goryrru (addysg, yn hytrach na dirwyon a chosbau) a dylid pwysleisio hynny yn y maes hwn hefyd.

·         Gallai darparu nalocson yn y carchar a'r gwasanaethau prawf achub bywydau

·         Ymgyrchu'n gadarnhaol i fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r stigma sy'n gysylltiedig â defnyddio sylweddau a chaethiwed

·         Ymgyrchu dros newid i ganllawiau dedfrydu ynadon (dirwyon ar bobl ddigartref am feintiau bach iawn o feddiant – roedd un enghraifft mewn dyled o £ filoedd a ‘byddai’n rhaid byw i 150’ i dalu eu dirwyon)

·         Wrth roi technegau llythyrau cysur a dargyfeirio ar waith, mae cysondeb o ran y dull plismona yn hanfodol, a dylai’r Senedd ymgyrchu dros hyn.

·         Dylai'r Senedd hefyd geisio mynd i'r afael yn well â'r trawma a'r rhesymau sylfaenol sy'n achosi bod gan bobl broblemau defnyddio sylweddau

·         Dylid herio'r cynnig diweddar i ddatganoli rhagor o bwerau cyfiawnder troseddol i Gymru gan y gallai ymateb mewn ffordd dameidiog wneud mwy o ddrwg nag o les..

---------------

Diolchodd Peredur i Dr Rob Jones a'r holl gyfranogwyr.

Daeth Martin Blakebrough â’r cyfarfod i ben.

Dywedodd Dr Rob Jones ei fod wedi cyflwyno’r sleidiau hyn ar sawl achlysur eisoes, gyda’r ddadl yn newid dros amser. Yn fras, mae’r ddadl ar hyn o bryd yn ymwneud ag adroddiad Gordon Brown ar gyfer datganoli rhannol. Yr hyn sy’n allweddol i’r cwestiwn a drafodwyd gan y byrddau yw parhau i dynnu sylw at gyfyngiadau’r system. Gallem fod yn eistedd yma ymhen 10 mlynedd yn trafod holl waith caled pobl yn gwneud i bethau weithio o fewn y system, ond heb ddatganoli llawn, bydd pobl yn parhau i deimlo’n rhwystredig – ac mae’r gair yna’n ganolog i’r adborth i waith ymchwil Rob. Mae’r system wedi’i thorri’n strwythurol, gyda phroblemau anhydrin yma na ellir mynd i’r afael â nhw heb y newid strwythurol hwnnw.